Fy Nhad, fy Nuw, fy nef,
O clyw fy llef a'm cwyn!
Cysura fi o hyd
A'th hoff wynebpryd mwyn:
A'm trigfa lon yn hyn o wlad,
Fo sanctaidd dŷ fy nefol Dad.
Dy gariad, Awdur hedd,
A'th fwyn dangnefedd, yw
Fy nghysur melys gwir,
Tra b'wyf ar dir y byw;
O dwg fi'n deg i'th nefol dŷ
Byth ger dy fron i'th foli fry.
Yn wyneb uffern ddu,
Ac angau mawr ei rym,
Rho imi nerth wrth raid -
Bydd Di yn nodded im';
Yn nyfroedd cryf Iorddonen ddu,
O Arglwydd grasol! cofia fi.
1-2: Benjamin Francis 1734-993 : David Charles 1803-80
Tonau [666688]: gwelir: I fyny at fy Nuw Ymlawenhaf yn Nuw |
My Father, my God, my heaven,
O hear my cry and my complaint!
Comfort me always
With thy dear gentle countenance:
And may my cheerful dwelling in this land
Be the sacred house of my heavenly Father.
Thy love, Author of peace,
And thy gentle tranquility, are
My true, sweet comfort,
While I am in the land of the living;
O lead me pleasantly to thy heavenly house
Forever before thee to praise thee above.
In the face of black hell,
And death with its great force,
Grant me strength in need -
Be thou a refuge to me;
In the strong waters of black Jordan,
O gracious Lord, remember me!
tr. 2025 Richard B Gillion
|
|